Cherie Blair
Mae twyllwr ddaeth yn enwog am helpu gwraig un o gyn-Brif Weinidogion Prydain i brynu dau fflat ar ddisgownt, wedi ei ryddhau o’r carchar yn Awstralia.

Bu Peter Foster ar flaen y papurau newydd nôl yn 2002 wedi iddo helpu Cherie Blair, gwraig Tony Blair, i brynu dau fflat ym Mryste am bris oedd £69,000 yn rhatach na phris y farchnad.

Ar y cychwyn, wrth i’r wasg holi, roedd Cherie Blair wedi gwadu iddi dderbyn unrhyw gyngor ariannol gan Peter Foster – dyn oedd wedi ei ganfod yn euog o hyrwyddo cynnyrch colli pwysau nad oedd yn gweithio yn y 1990au.

Fe gafodd y sgandal ei alw’n ‘Cheriegate’ a bu’n rhaid i Cherie Blair ymddiheuro am dderbyn help gan Peter Foster.

Rhyddhau o garchar

Bellach mae Llys Ffederal yn Brisbane wedi caniatáu rhyddhau Peter Foster o’r carchar. Mae wedi treulio blwyddyn o ddedfryd 18 mis dan glo am hyrwyddo cynnyrch colli pwysau ffug yn Awstralia.

Cyn cael ei garcharu fe dreuliodd flwyddyn ar ffo yn cuddio rhag yr heddlu a’r awdurdodau.

Yn ogystal â hyrwyddo’r cynnyrch ffug, fe gafwyd Peter Foster, 53, yn euog o gam-drin yr heddlu a gwrthod cael ei arestio pan ddaeth swyddogion o hyd iddo yn cuddio yn nhref glan y môr Byron Bay, rhyw 500 milltir i’r gogledd o Sydney.

Yn 2005 roedd wedi cael ei wahardd rhag bod yn rhan o’r diwydiant colli pwysau yn Awstralia, ac wedi anwybyddu’r gwaharddiad hwnnw.

Bu’n hyrwyddo chwistrellwr ceg (mouth spray) fel ffordd o golli pwysau, er nad oedd sail i hynny.

Ar ôl cael ei ryddhau, fe ddywedodd Peter Foster ei fod yn bwriadu “mynd adref at fy mam a gwneud paned o de, gafael yn ei llaw ac ymddiheuro am y 12 mis diwethaf”.