Xi Jinping (CCA 2.0)
Fe fydd y Deyrnas Unedig yn croesawu arlywydd Tsieina i wledydd Prydain am y tro cynta’ mewn degawd yr wythnos nesaf, wrth i Xi Jinping ddod ar ymweliad swyddogol.

Mae disgwyl i’r arlywydd aros ym Mhalas Buckingham a threulio tri diwrnod yn Llundain gan gyfarfod y Prif Weinidog, David Cameron, cyn ymweld â Manceinion ar y pedwerydd diwrnod.

Mae disgwyl protestiadau yn ystod ymweliad Xi Jinping fodd bynnag gan grwpiau sydd yn galw am ryddid i Tibet, a Mwslemiaid Uighur yng ngogledd orllewin Tsieina.

A daw’r ymweliad wrth i swyddogion diogelwch hefyd godi cwestiynau am ddoethineb gadael i Tsieina fuddsoddi mewn pwerdai niwclear yn y Deyrnas Unedig.

Protestiadau

Y tro diwethaf i arlywydd Tsieina ymweld â Phrydain yn 2005 fe gafwyd protestiadau am record hawliau dynol y wlad, ac mae disgwyl i drefniadau diogelwch fod ar eu mwya’ dwys yn ystod yr ymweliad hwn hefd.

Bydd Xi Jinping yn cyfarfod â’r Tywysog Siarl a Duges Cernyw yn ystod ei ymweliad, er nad oes gan y Tywysog Siarl berthynas dda â gwleidyddion Tsieina ar y cyfan gan ei fod yn cefnogi’r Dalai Lama, arweinydd ysbrydol Tibet.

Yn ogystal â’r Frenhines a David Cameron mae disgwyl i’r Tywysog William a’i wraig Kate Duges Caergrawnt gyfarfod â’r arlywydd yn ystod gwledd swyddogol, ac mae’n bosib y bydd yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, yn bresennol hefyd.

Mae Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus i greu cysylltiadau agosach rhwng Prydain a Tsieina, ail economi fwya’r byd.

Pryder am fuddsoddiad niwclear

Mae’n bosib yn ystod ei ymweliad y bydd Xi Jinping yn cyhoeddi buddsoddiad gan Tsieina mewn adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Bradwell yn Essex.

Ond yn ôl papur The Times mae arweinwyr milwrol a chudd-wybodaeth amlwg wedi rhybuddio gweinidogion i beidio â gadael i Tsieina rannu cyfran o isadeiledd pwysig y wlad allai beri risg diogelwch yn y dyfodol.

Yn ôl y papur newydd roedd pryderon mawr ymysg y swyddogion hynny y gallai Tsieina geisio defnyddio’r buddsoddiad i gael mynediad i systemau cyfrifiadurol Prydeinig.

Mae academyddion hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â’r posibiliad, gyda’r Athro Jeffrey Henderson o Brifysgol Bryste, yn dweud na allai ddychmygu “unrhyw wlad ddatblygedig arall yn y byd” fyddai’n caniatáu’r fath fuddsoddiad.