Edwina Hart eisiau gweithredu brys
Mae Gweinidog Economi Cymru wedi rhybuddio bod cwmnïau a swyddi mewn peryg oherwydd argyfwng y diwydiant dur.

Yn ôl Edwina Hart, mae rhai cwmnïau ar y dibyn ac, ar ddechrau cynhadledd arbennig am y broblem, mae wedi cefnogi galwadau am gymorth brys i helpu’r diwydiant.

Mae wedi galw’n arbennig am ostwng pris ynni i weithfeydd dur, gan ddweud mai hynny a mewnforiadau rhad yw’r bygythiad mwya’.

‘Argyfwng’

“Mae’r pwysau cyfun yma’n golygu bod nifer o gwmnïau yng Nghymru’n mewn argyfwng ac mae swyddi yn y fantol,” meddai Edwina Hart cyn cynhadledd am ddyfodol y diwydiant yn Rotherham, heb fod ymhell o Redcar lle mae gwaith dur yn cau a 2,200 o swyddi yn mynd.

“Fe  fydd mwy o gefnogaeth i fynd i’r afael â’r materion hyn ar lefel y Deyrnas Unedig yn allweddol er mwyn i fusnesau Cymru weithredu ar delerau teg, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig ond mewn marchnadoedd rhyngwladol.”

Yr ha’ yma, mae cwmni dur Tata wedi cau rhannau o weithfeydd Llanwern a Shotton tros dro – ond mae un gwaith dur yng Nghasnewydd yn ailagor heddiw.