Nicola Sturgeon
Mae Nicola Sturgeon wedi dweud na ddylid cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban oni bai bod tystiolaeth “gref a chyson” bod y farn gyhoeddus wedi newid.
Rhybuddiodd arweinydd yr SNP fodd bynnag y byddai rhagor o doriadau gan y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, a ffactorau fel adnewyddu Trident, yn debygol o weld cynnydd yn y niferoedd oedd o blaid annibyniaeth.
Mae’r polau piniwn diweddar wedi dangos bod y bwlch rhwng y ddwy garfan yn llai na llynedd, pan bleidleisiodd 55% o bobl yn erbyn gadael y Deyrnas Unedig.
Mynnodd Nicola Sturgeon mewn araith i gynhadledd ei phlaid yn Aberdeen mai canolbwyntio ar etholiadau Senedd yr Alban y flwyddyn nesaf fyddai ei blaenoriaeth.
Ail refferendwm
Pwysleisiodd arweinydd yr SNP bod angen parchu canlyniad y refferendwm llynedd, gan ychwanegu ar yr un pryd fodd bynnag bod modd i amgylchiadau newid mewn amser.
“Fyddai hi ddim yn briodol i awgrymu refferendwm arall yn y senedd nesaf heb dystiolaeth gref bod nifer sylweddol o’r rheiny bleidleisiodd ‘Na’ wedi newid eu meddyliau, a wnawn ni ddim hynny.
“Fyddai hynny ddim yn parchu’r penderfyniad a wnaeth pobl.”
Petai’r polau piniwn yn newid yn sylweddol ac yn aros yn gyson o blaid annibyniaeth, fodd bynnag, mynnodd Nicola Sturgeon na fyddai gan San Steffan hawl i atal ail bleidlais.
“Os oes tystiolaeth glir a chyson bod pobl wedi newid eu meddyliau ac mai annibyniaeth yw dewis mwyafrif clir o fewn y wlad, fyddai gennym ni ddim hawl i wrthod a chynnal refferendwm a wnawn ni ddim chwaith,” meddai.
“Does gan neb yr hawl i rwystro democratiaeth.”
Refferendwm Ewrop
Un ffactor fawr allai newid meddyliau pobl yr Alban ar annibyniaeth, yn ôl Nicola Sturgeon, fyddai petai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Gadewch i mi ddweud hyn wrth David Cameron. Llynedd fe ddywedoch chi wrth etholwyr yr Alban mai’r unig ffordd i sicrhau ein bod ni’n aros yn yr UE oedd pleidleisio Na,” ychwanegodd arweinydd yr SNP.
“Roedd e’n un o gonglfeini eich ymgyrch chi.
“Os ydych chi’n ceisio mynd â’r Alban allan o’r UE yn erbyn ein dymuniadau democrataidd ni, fe fyddwch chi’n torri amodau’r bleidlais llynedd.
“Ac o dan yr amgylchiadau hynny, mae’n bosib iawn y gwelwch chi y bydd hi’n amhosib atal y galw am ail refferendwm ar annibyniaeth.”