Heddlu'r Alban
Mae Heddlu’r Alban wedi cyhoeddi cynlluniau newydd i annog eu swyddogion i ddysgu Gaeleg.

Fe wnaeth yr heddlu gyhoeddi ei gynllun drafft ar yr iaith ddoe ac mae’n cynnwys cynigion i helpu mwy o’i staff i ddysgu’r iaith, recriwtio mwy o siaradwyr Gaeleg a brandio gwisg a cherbydau’r heddlu â logos Gaeleg arnyn nhw.

“Fel corff cyhoeddus, mae gan Heddlu’r Alban rwymedigaeth orfodol i ddatblygu Cynllun Iaith Gaeleg a byddwn yn gwneud hynny wrth ymgynghori â chymunedau rydym yn gwasanaethu a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda ni,” meddai prif uwch-arolygydd Heddlu’r Alban, Julian Innes.

Ychwanegodd Joe Moore, prif weithredwr dros dro Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd y Gaeleg): “Mae’r cynlluniau iaith wedi bod yn llwyddiannus yn cefnogi’r iaith drwy ei phrif ffrydio i gyrff cyhoeddus tra’n cynnig cyfleoedd i’r sawl sy’n ei siarad i’w defnyddio.

“Rydym yn falch o weld Heddlu’r Alban yn lansio eu cynlluniau drafft ar gyfer ymgynghori â’r cyhoedd ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw drwy gydol y broses.”

Nifer y siaradwyr heddiw

Yn 2011, roedd ffigurau’r Cyfrifiad yn dangos bod 618 yn fwy o bobl o dan 18 oed yn siarad yr iaith nag oedd yn 2001.

Ond er y cynnydd ymhlith pobl ifanc, roedd  yr iaith wedi colli 966 o siaradwyr dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae dros 87,000 o bobl yn yr Alban yn gallu deall rhywfaint o’r iaith ac mae bron i hanner o’r rhain yn byw yn yr Ucheldiroedd, Ynysoedd y Gorllewin a Glasgow.