Mae pwysau’n cael ei roi ar arweinwyr gwledydd yr Undeb Ewropeaidd i gadw at eu haddewidion i fynd i’r afael a’r argyfwng ffoaduriaid.

Dywedodd llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker bod eu hygrededd yn y fantol os ydyn nhw’n methu â gweithredu yn ystod yr uwchgynhadledd ym Mrwsel  heddiw.

“Mae’n rhaid i’r aelodau wneud yr hyn maen nhw wedi addo ei wneud,” meddai.

Daeth sylwadau Jean-Claude Juncker  wrth i arweinwyr y 28 o wledydd sy’n aelodau o’r UE gyrraedd Brwsel ar gyfer yr uwchgynhadledd a fydd yn canolbwyntio ar argyfwng y ffoaduriaid.

Roedd yr arweinwyr wedi rhoi addewid fis diwethaf y byddan nhw’n rhoi rhagor o arian ac yn darparu arbenigwyr i helpu i sgrinio miloedd o bobl sy’n cyrraedd Ewrop bob dydd yn chwilio am loches neu swyddi.

Ond ychydig iawn o wledydd sydd wedi cyflwyno’r arian neu’r staff ychwanegol.

Yn gynharach dywedodd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel bod yn rhaid i Ewrop gydweithredu gyda Thwrci er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng.

Drwy wella’r amodau yn y rhanbarthau hynny o le mae’r ffoaduriaid yn dod, efallai y byddan nhw’n cael eu perswadio i beidio teithio i Ewrop, meddai.

Dywedodd wrth wleidyddion yr Almaen bod Twrci yn chwarae “rhan allweddol yn hyn” gan eu bod yn rhoi lloches i ddwy filiwn o bobl o Syria ac yn gyrchfan allweddol i fudwyr sy’n dod i Ewrop.

Bydd Angela Merkel yn teithio i Istanbwl ddydd Sul i gynnal trafodaethau gydag arweinwyr Twrci.