Nicola Sturgeon
Fe fydd Nicola Sturgeon yn galw ar bleidleiswyr a oedd wedi gwrthod annibyniaeth i’r Alban yn y refferendwm y llynedd, i gefnogi’r blaid yn etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf.
Bydd arweinydd yr SNP mynnu mai nhw yw’r “blaid orau” i Lywodraethu’r Alban.
Nod y Prif Weinidog yw sicrhau trydydd tymor “hanesyddol” i’w phlaid ym mis Mai.
Bydd Nicola Sturgeon yn annerch cynhadledd fwyaf ei phlaid heddiw.