Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi ysgrifennu at aelodau Cymreig Tŷ’r Arglwyddi yn gofyn iddynt bleidleisio yn erbyn Bil y Farchnad Fewnol.
Fe fydd ail ddarlleniad y Bil sydd wedi ei gyflwyno gan Lywodraeth San Steffan yn Nhŷ’r Arglwyddi ar Hydref 19.
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yw’r diweddaraf i rannu eu pryderon am effaith niweidiol y Bil ar ddemocratiaeth, safonau bwyd, lles anifeiliaid, yr economi a’r amgylchedd.
Mae’r Undeb, sy’n cynrychioli Cristnogion mewn 400 o gapeli yng Nghymru, hefyd yn dweud y byddai trosglwyddo pwerau o’r Senedd i weinidogion llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gam “annemocrataidd”.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud fod y Bil yn ymgais i ddwyn pwerau yn ôl i Lundain.
‘Dirmygu ac yn diystyru hawliau democrataidd’
“Credwn fod cynnwys y Bil, a’r modd y cafodd ei gyflwyno, yn dirmygu ac yn diystyru hawliau democrataidd ein cenedl”, meddai’r Parchedig Jill-Hailey Harries ar ran yr Undeb.
“Ystyriwn fod trosglwyddo pwerau gwario ar seilwaith, datblygu economaidd, diwylliant, chwaraeon, a chefnogaeth ar gyfer cyfleoedd addysgol a hyfforddiant, i ddwylo Gweinidogion llywodraeth y DU yn gam annemocrataidd.
“Ofnwn y gallai’r Bil gael effaith andwyol ar les a ffyniant ein pobl, safonau bwyd a lles anifeiliaid, a dyfodol yr amgylchedd.
“Er enghraifft, fe allai llywodraeth y DU gytuno i ostwng safonau cynhyrchu bwyd yn Lloegr er mwyn cynhyrchu bwyd yn rhatach.
“Gallai hynny arwain at foddi’r farchnad yng Nghymru, lle byddai’r safonau’n dal yn uwch, gyda chanlyniadau dinistriol i amaethwyr Cymru.
“Erfyniwn arnoch, gyda’r parch pennaf, ar yr awr hwyr hon, i roi llais yn Nhŷ’r Arglwyddi i’r cam mawr sy’n cael ei wneud â’n cenedl.”