Mae Boris Johnson wedi dweud wrth ASau ei fod wedi canslo cyfarfod gyda grŵp o deuluoedd sydd mewn profedigaeth yn sgil Covid-19 oherwydd her gyfreithiol.

Pan ofynnwyd iddo am hyn gan Syr Keir Starmer, Arweinydd Llafur, ychwanegodd y Prif Weinidog y bydd “yn sicr” yn cwrdd â nhw ar ôl i’r ymgyfreitha ddod i ben.

Dywedodd Mr Starmer wrth Dŷ’r Cyffredin: “Cyn y toriad, gofynnais iddo a fyddai’n cyfarfod â grŵp ‘Bereaved Families for Justice’.

“Cefais y fraint o gwrdd â’r teuluoedd ar 15 Gorffennaf. Fe roddon nhw hanesion hynod o emosiynol imi o ran sut roedd Covid-19 wedi cipio’u hanwyliaid oddi arnynt.

Llythyr

“Ar Sky News yr wythnos ddiwethaf, gofynnwyd i’r Prif Weinidog a fyddai’n cwrdd â’r teuluoedd a dywedodd, a dyfynnaf, ‘Wrth gwrs y byddaf yn cwrdd â’r rhai sydd mewn profedigaeth, wrth gwrs y gwnaf hynny‘.

“Ond ddoe cawsant lythyr gan y Prif Weinidog yn dweud nad oedd cyfarfod â nhw ‘yn anffodus ddim yn bosibl’ bellach. Bydd y Prif Weinidog yn deall rhwystredigaeth a phoen y teuluoedd hynny – dywedodd un peth wrth gamera a peth arall iddyn nhw.”

Wrth ymateb, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae’n gwbl nodweddiadol ohono y dylai fframio hyn yn y ffordd honno… wrth gwrs, byddwn yn hapus iawn i gwrdd â theuluoedd y rhai sydd mewn profedigaeth a chydymdeimlaf yn fawr â phawb sydd wedi colli anwyliaid drwy gydol y pandemig hwn ac rydym i gyd yn teimlo eu poen a’u galar.

“Mae’r grŵp penodol hwn y mae’n cyfeirio ato yn digwydd bod yn ymgyfreitha yn erbyn y Llywodraeth ar hyn o bryd… a byddaf yn sicr yn cwrdd â hwy unwaith y daw’r ymgyfreitha hwnnw i ben.”