Ddoe (1 Medi) cyhoeddodd Ed Davey, arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol, mai Wendy Chamberlain, Aelod Seneddol Gogledd Ddwyrain Fife, fydd llefarydd newydd y blaid ar gyfer Cymru.

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Peter Black, sydd yn gyn-Aelod o Senedd Cymru i’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn gyn-faer Abertawe, ac yn gynghorydd yng Nghwmbwrla, Abertawe, fod y penodiad yn un ‘cywilyddus.’

“Ers pryd mae Fife yn agos at Gymru?” holodd Peter Black.

Gwnaeth y sylwadau hyn ar trydar fore heddiw (2 Medi), mewn ymateb i drydariad gan gyfrif Rhyddfrydwyr Ifanc Cymru, yn cyhoeddi’r penodiad.

Ymateb Wendy Chamberlain

Wrth ymateb i sylwadau Peter Black, dywedodd Wendy Chamberlain AS wrth golwg360:

“Byddwn wrth fy modd yn cael cydweithio yn San Steffan gydag Aelodau Seneddol o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Ond yn y cyfamser, rwyf yn bwriadu parhau i gydweithio â Jane Dodds, Kirsty Williams ac eraill er mwyn codi materion Cymreig Rhyddfrydol yn Nhŷ’r Cyffredin, fel yr wyf wedi ei wneud ers fy mhenodiad i’r rôl y llynedd,” meddai

“Byddaf yn cydweithio’n agos â’r Farwnes Humphreys, llefarydd y Blaid ar gyfer Cymru yn Nhŷ’r Arglwydd,” ychwanegodd.