Mae’r DU mewn perygl o gwympo allan o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb masnach drwy wrthod cyfaddawdu mewn trafodaethau, meddai Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Barnier ddydd Mercher ei fod yn “bryderus ac yn siomedig” ar ôl i brif drafodwr Stryd Downing, David Frost, fethu â gwneud unrhyw gonsesiynau yn ystod trafodaethau anffurfiol.

Ailadroddodd Mr Barnier fod yn rhaid taro bargen erbyn y “dyddiad cau llym” ddiwedd y mis nesaf er mwyn i bethau fod yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr.

“Rhaid i ni symud ymlaen”

“Rhaid i ni symud ymlaen, mae angen i ni symud,” meddai Mr Barnier ar ôl araith gerbron melin drafod y Sefydliad Materion Rhyngwladol ac Ewropeaidd yn Nulyn.

“Os yw’r DU am gael bargen gyda ni a chytundeb teg ar gyfer mynediad di-dariff, heb gwotâu, i’n marchnad o 450 miliwn o ddefnyddwyr, yna bydd yn rhaid iddynt symud… a’u dewis nhw yw hynny, eu cyfrifoldeb nhw yw hynny.

“Rydym yn barod i wneud cyfaddawd teg ac adeiladol ond nid [cyfaddawd] i niweidio’r Undeb Ewropeaidd.”

Dywedodd Rhif 10 Stryd Downing ei bod yn “amlwg na fydd hyn yn hawdd ei gyflawni” ar ôl i Mr Barnier a Mr Frost gyfarfod yn Llundain ddydd Mawrth am drafodaethau anffurfiol cyn yr wythfed rownd o drafodaethau ffurfiol yr wythnos nesaf.

“Pob lwc, pob lwc”

Dywedodd Mr Barnier: “Nid oedd unrhyw newid yn safbwynt y DU. Dyna pam rwyf yn mynegi’n gyhoeddus fy mod yn poeni ac yn siomedig oherwydd, a dweud y gwir, rydyn ni wedi symud.

“Rwyf i wedi dangos yn glir fy mod yn agored i ddod o hyd i gyfaddawd.

“Os nad ydyn nhw’n symud ar y materion sy’n faterion allweddol i’r UE, y ‘maes chwarae gwastad’, pysgodfeydd a llywodraethiant, bydd y DU yn mewn perygl o beidio cael bargen.”

Dywedodd Mr Barnier na fydd yr UE yn derbyn bywoliaeth pysgotwyr yn cael ei “defnyddio i fargeinio yn y trafodaethau hyn”.

A dywedodd “pob lwc, pob lwc” i’r rhai sy’n dweud bod gadael heb fargen fasnach yn cyflwyno cyfleoedd.

“A siarad yn onest, nid oes rheswm dros danymcangyfrif canlyniadau dim bargen i lawer o bobl, llawer o sectorau – bydd gwahaniaeth enfawr rhwng bargen a dim bargen,” ychwanegodd.

Diolch i Phil Hogan

Diolchodd Mr Barnier hefyd yn “gynnes” i Phil Hogan, gwleidydd Iwerddon a ymddiswyddodd fel comisiynydd masnach yr UE ar ôl helbul ynghylch torri rheoliadau’r coronafeirws.

Dywedodd: “Byddaf yn gweld eisiau Phil Hogan – gallwn bob amser ddibynnu arno i drosglwyddo pryderon y Gwyddelod i mi’n uniongyrchol iawn dros y pedair blynedd diwethaf.”