Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cofrestrwyd mwy o ‘farwolaethau ychwanegol’ nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws mewn cartrefi preifat ers Mehefin 26 na marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.

Cartrefi preifat sydd hefyd wedi profi’r nifer uchaf o ‘farwolaethau ychwanegol’ (hynny yw, marwolaethau a gofrestrir sydd uwchben yr hyn y gellir ei ddisgwyl) nad ydynt yn gysylltiedig â Covid-19 o gymharu â bob lleoliad arall.’

Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod marwolaethau cyffredinol nad ydynt yn gysylltiedig â Covid-19 wedi gostwng i lefelau is na’r cyfartaledd.

Llai yn mynd i’r ysbyty?

“Efallai fod rhai o’r marwolaethau hyn gartref yn bobl a fyddai fel arall wedi marw mewn mannau eraill, yn enwedig mewn ysbytai, lle gwelwn lefelau llawer is o farwolaethau nag sy’n arferol ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn”, meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau.

“Gallai hyn ddangos nad yw cleifion yn cael eu derbyn i’r ysbyty neu eu bod yn cael eu rhyddhau’n gynt.

“O ran y marwolaethau pobl hŷn, efallai y bydd unigolion yn dewis marw gartref yn hytrach na chael eu derbyn i’r ysbyty.”

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i ymchwilio ymhellach i’r cynnydd mewn marwolaethau mewn cartrefi preifat.