Yn dilyn honiadau a wnaed gan y blaid GWLAD ddoe (Medi 1) fod llawer o dai ym mhentref Aberllefenni ar fin cael eu gwerthu yn yr wythnosau nesaf, daeth cadarnhad fod yr 16 tŷ oedd ar werth ar fin cael eu gwerthu.

Yn ôl Dafydd Hardy, yr asiant sydd yn gwerthu’r 16 o dai, mae’r pryniant yn mynd yn ei flaen yn ara’ deg, ond nid yw’n gallu datgelu mwy ar hyn o bryd.

“Mae llai na hanner tai’r pentref yn cael eu gwerthu, ac mae’n ormodiaith dweud fod yr holl bentref wedi bod ar werth,” meddai Dafydd Hardy wrth golwg360.

Mae’r tai, sydd yn gyn-dai chwarelwyr, yn eiddo i Waith Llechi Inigo Jones ar hyn o bryd, yn ôl BBC Cymru Fyw.

Siomedig a rhwystredig

Roedd gobeithion y byddai ymgyrch genedlaethol er mwyn ceisio prynu’r tai, ond bydd rhaid i’r ymgyrchwyr ddefnyddio eu hegni er buddion eraill nawr, meddai arweinydd GWLAD:

“Wrth gwrs ein bod yn siomedig o glywed am y pryniant, ond mae’n rhaid defnyddio’r ymateb cyhoeddus cryf a gawsom ni tuag at y syniad o brynu cymunedol mewn modd adeiladol.”

“Mae’r lefel o gefnogaeth yn adlewyrchu rhwystredigaeth pobol tuag at brynu tai ar hyn o bryd, a’u rhwystredigaeth tuag at y prif bleidiau, sydd heb fynd i’r afael â’r broblem dros y blynyddoedd diwethaf.”

SOLD- BUT CAMPAIGN CONTINUESA WELSH village is likely to be sold in the next few weeks.There were hopes of a…

Posted by Gwlad on Tuesday, 1 September 2020

Bythefnos yn ôl, lleisiodd cynghorwyr yng Ngwynedd a Sir Gaerfyrddin, eu pryderon am y cynnydd yn y tai a gafodd eu gwerthu fel ail gartrefi, a’r effaith y gallai hyn ei chael ar gymunedau Cymraeg a theuluoedd ifanc.

Mae Mr Evans yn datgan yr un pryderon, gan ychwanegu fod y pwysau ar ein cymunedau yn gwaethygu yn sgil cynnydd yn y nifer o dai sydd yn cael eu prynu gan bobol sydd yn dymuno byw yng Nghymru, ond yn parhau i weithio dros y ffin:

“Rydym yn gofyn i bobol gymryd sylw o’r hyn sydd yn digwydd yn eu cymunedau, a chysylltu gyda chymunedau eraill,” ychwanegodd.