Mae babi llai na mis oed wedi cael ei adael mewn bocs y tu allan i dŷ yn Sir Northampton.

Cafwyd hyd i’r ferch fach, a oedd wedi’i lapio mewn blanced las, y tu allan i’r tŷ yn Ibsen Walk, Corby tua 9yb.

Roedd aelod o’r cyhoedd wedi clywed sŵn yn dod o’r bocs cardfwrdd.

Dywedodd yr heddlu bod y plentyn yn ymddangos yn iach ac yn cael gofal yn Ysbyty Cyffredinol Kettering.

Mae’r heddlu wedi apelio ar fam y plentyn i gysylltu â nhw ar frys oherwydd pryder am ei lles.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio heddlu Sir Northampton ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111.