Mark James, Prif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Brif Weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin i esbonio pam bod y sefydliad yn gweithredu’n “uniaith Saesneg”.

O flaen cyfarfod Bwrdd Gweithredol y cyngor y bore ‘ma, bu ymgyrchwyr a’r cyn-archdderwydd, John Gwilym Jones yn cyflwyno gwahoddiad i Mark James ddod i gyfarfod cyhoeddus i ddweud wrth bobl y sir pam bod y cyngor yn “cyflawni bron y cyfan o’i waith yn Saesneg”.

Dogfennau uniaith Saesneg

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, roedd agenda ac adroddiadau cyfarfod y Bwrdd Gweithredol i gyd yn Saesneg, er bod “crynodebau bras yn Gymraeg” a bod dogfennau polisi yn uniaith Saesneg.

Mae’r adroddiadau “uniaith Saesneg” hyn yn cynnwys Adroddiad Gwelliant Blynyddol o holl waith y cyngor, gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn, adroddiadau ar y gyllideb a gwasanaethau hamdden, gan gynnwys cofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd Gweithredol.

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu Strategaeth Iaith sy’n annog ysgolion a phawb arall yn y sir i weithio’n Gymraeg, ac eto mae’r Cyngor yn cyflawni bron y cyfan o’i waith ei hun yn hollol Saesneg,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin.

‘Angen esbonio’n gyhoeddus’

Testun cyfarfod cyhoeddus nesaf Cymdeithas yr Iaith yng nghyfres “Tynged yr Iaith yn Sir Gâr”, bydd “A yw Cyngor Sir Gaerfyrddin yn gweithredu’n Gymraeg ei hun?” a fydd yn cael ei gynnal ar 30 Ionawr.

“Rydyn ni’n ddiolchgar fod nifer o swyddogion a chynghorwyr wedi cytuno i ddod i’r cyfarfod i drafod y mater, ond credwn fod angen i Brif Weithredwr y Cyngor fod yn atebol ac esbonio’n gyhoeddus beth yw’r cynllun i newid iaith y cyngor, ac i ateb cwestiynau’r cyhoedd,” meddai Sioned Elin.

“Diolchwn felly fod John Gwilym Jones, sydd wedi hen arfer a Gwyliau Cyhoeddi Eisteddfodau, wedi dod atom i gyhoeddi’r Cyfarfod Cyhoeddus ac i gyflwyno’r gwahoddiad i Mark James fod yn bresennol.”

‘Trefniadau ar waith’

Wrth ymateb i’r feirniadaeth dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, aelod o’r Bwrdd Gweithredol gyda chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg:

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymrwymedig i gryfhau a chynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn y Sir. Mae’r Cyngor yn cydnabod y rôl sydd gennym i’w chwarae, ynghyd â phartneriaid a rhanddeiliaid eraill, yn sicrhau dyfodol yr iaith.

“Yn dilyn derbyn adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’ gan y Cyngor Llawn llynedd a’r Safonau Iaith Gymraeg newydd arfaethedig mae trefniadau ar waith er mwyn galluogi cyhoeddi papurau cyfarfodydd y Bwrdd Gweithredol a’r Cyngor Llawn yn Gymraeg ac yn Saesneg.

“Bydd hyn yn cael ei gyflwyno’n raddol dros y 12 mis nesaf. Fodd bynnag, mae’n rhaid cydnabod tra byddwn yn adeiladu capasiti mewnol i fedru gweithio’n ddwyieithog bydd y gofyniad hwn yn arwain at oblygiadau ar adnoddau’r Cyngor yn enwedig o safbwynt cynnydd yn y galw am Wasanaethau Cyfieithu.”

‘Cywiriad’

Ychwanegodd: “Mae agenda, taenlen crynodeb a chofnodion cyfarfodydd y Cyngor Llawn a’r Bwrdd Gweithredol eisoes yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, gwnaed camgymeriad gweinyddol wrth gyhoeddi fersiwn Saesneg y cofnodion ar ochr Cymraeg y wefan ar gyfer cyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 28 Medi. Mae hyn yn cael ei gywiro erbyn hyn.”