Llys Ynadon Caerdydd
Mae myfyriwr 23 oed wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o geisio treisio myfyrwraig 19 oed yn ystod wythnos y glas – fore dydd Iau diwethaf.

Fe wnaeth Khalid Alahmadi ymddangos gerbron ynadon heddiw i gadarnhau ei enw yn unig.

Fe gafodd ei gyhuddo neithiwr o geisio treisio merch 19 oed yng Ngerddi’r Orsedd, Caerdydd am 4:30 fore dydd Iau diwethaf. Cafodd y parc ei gau am 12 awr tra bod swyddogion fforensig yn archwilio’r safle. Fe wnaeth yr heddlu apêl am wybodaeth yn ogystal â rhyddhau lluniau CCTV o ddyn roedden nhw am ei holi.

Clywodd y llys bod Khalid Alahmadi yn dod o Saudi Arabia yn wreiddiol, ac yn astudio ym Mhrifysgol De Cymru yn Nhrefforest ar hyn o bryd.

Ni wnaeth y diffynnydd gyflwyno ple, ond fe ddywedodd ei gyfreithiwr, Neil Davies, y bydd ei gleient yn herio’r cyhuddiad.

Roedd Khalid Alahmadi, sy’n byw ym Meridian Plaza, Teras Biwt, Caerdydd, wedi gwrando ar yr achos gyda chymorth  cyfieithydd, cyn cael ei gadw yn y ddalfa.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron, Caerdydd ar 12 Hydref.