Mae cyflwynydd y rhaglen deledu ddadleuol The Jeremy Kyle Show a’i wraig wedi gwahanu ar ôl bod yn briod am 13 o flynyddoedd.
Roedd Jeremy Kyle a Carla Germaine wedi cwrdd pan wnaeth hi gystadlu i briodi dyn dieithr ar orsaf radio Birmingham – roedd y cyflwynydd teledu yn gweithio ar yr orsaf ar y pryd.
Priododd Carla Germaine y dyn dieithr, ond gwahanodd y ddau ac fe ddechreuodd hi berthynas gyda Jeremy Kyle.
Yn 2012 cafodd Jeremy Kyle wybod bod ganddo ganser y ceilliau.
Daw’r newyddion bod y ddau yn gwahanu wedi i’r cyflwynydd ddweud ar deledu ei fod heb gael ei damaid “ers oes pys”.