Mae disgwyl i Nigel Farage ddweud wrth ei blaid yn ei chynhadledd flynyddol nad yw etholiadau’r Cynulliad fis Mai nesaf yn un o’i flaenoriaethau.

Yn hytrach, mae Arweinydd UKIP yn targedu’r refferendwm dros aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn son am y posibilrwydd o ‘Brexit’ (British Exit) yn y bleidlais honno, mae disgwyl i Farage ddweud:  “Roeddwn i’n arfer meddwl bod gennym ni siawns o 33% o’i ennill, ond erbyn hyn dw i’n meddwl ei fod yn 50%.”

Tra’n mynnu bod UKIP am wneud yn dda yn etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru’r flwyddyn nesaf, bydd Farage yn ychwanegu: “Nid yw hyn yn flaenoriaeth gennyf. Mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn ennill y refferendwm.”

Gwahodd grwpiau i weithio gydag UKIP

Bydd yr arweinydd yn dweud heddiw yn y gynhadledd ei fod yn disgwyl i UKIP wneud yn dda mewn etholiadau yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Llundain.

“Ond yn bennaf, rydym yn edrych ymlaen at y refferendwm rydym wedi brwydro amdani am gymaint o amser.

“Mae UKIP yn ymroddedig i adael yr UE ac rydym wastad wedi dweud y byddwn yn gweithio gydag unrhyw un sy’n rhannu’r un nod.

“Rydym wedi gwahodd yr holl grwpiau a sefydliadau hynny sy’n rhannu’r un nod, ac sy’n gallu rhoi llwyfan i gymryd y neges honno ledled y wlad.”