Mae yna brawf newydd ar y ffordd a fydd yn gallu adnabod y math o ganser y fron sy’n fwy tebygol o ddychwelyd ar ôl triniaeth.

Mae gwyddonwyr wedi adnabod math o enetig sy’n ymddangos ar ôl i ganser ail ymddangos.

Fe fydd canfod y math yma o ganser yn dilyn diagnosis yn golygu bod modd sicrhau triniaeth wedi’i deilwra i anghenion y claf.

Mae un mewn pump o achosion o ganser y fron yn dychwelyd ar ôl triniaeth, gan ymddangos yn yr un lle â’r tiwmor gwreiddiol neu yn ehangu i rannau eraill o’r corff.

Cafodd yr ymchwil newydd ei gyflwyno i Gyngres Canser Ewropeaidd yn Fiena.

Dywedodd Cadeirydd y Gyngres, yr Athro Peter Naredi: “Fe fydd y wybodaeth sydd wedi ei chyflwyno gan Dr Yates yn bwysig iawn mewn oes o feddygaeth fanwl gywir.”