Mae arweinwyr Mwslimaidd ym Mhrydain wedi dweud y dylai pererinion sy’n mynd i ŵyl yr Hajj yn ninas sanctaidd Mecca gael hyfforddiant diogelwch.
Daw eu galwadau diwrnod ar ôl gwasgfa angheuol yn ystod yr ŵyl Fwslimaidd ladd dros 700 o boblyn Saudi Arabia.
Dyma’r trychineb mwyaf ers 25 mlynedd yn hanes yr Hajj pan laddwyd 717 o bobl ac anafwyd 863.
Roedd tua dwy filiwn o bobl ledled y byd wedi teithio i Saudi Arabia i gymryd rhan yn y bererindod sy’n para pum diwrnod o hyd.
Credir bod tua 25,000 o ddinasyddion Prydain wedi mynd i gymryd rhan yn yr Hajj, ac mae’r awdurdodau’n ansicr os oes unrhyw un ymhlith y meirw yn dod o wledydd Prydain.
“Roeddwn yn drist o glywed am y nifer fawr o bobl a gollodd eu bywydau yn Mecca. Rwyf yn meddwl am y teuluoedd a’r dioddefwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond.
“Bydd trychineb mor fawr yn effeithio ar Fwslimiaid dros y byd sy’n cymryd rhan yn yr Hajj.”
Mae’r Swyddfa Dramor mewn “cysylltiad agos” â’r awdurdodau yn Saudi Arabia, ac maen nhw’n edrych am Brydeinwyr mewn ysbytai a lleoliadau eraill.
Galw am gyrsiau hyfforddi
Mae Habib Malik, cyfarwyddwr yr Hajj yn yr Alban, yn Mecca ar hyn o bryd ac mae wedi galw ar lywodraethau’r byd i sicrhau hyfforddiant diogelwch fel rhan o gais fisa’r pererinion cyn mynd i Saudi Arabia.
“Rwy’n credu bod Prydain mewn sefyllfa wych ar hyn o bryd a gallan nhw arwain ar hyn. Dechreuwch gyrsiau hyfforddi. Gwnewch e’n orfodol i bobl,” meddai ar BBC Radio 5 live.
“Nid yw’n bosibl dibynnu ar un llywodraeth i reoli pob dim heb gymorth gan rai allanol. Rwy’n credu dylai pob gwlad chwarae rôl.”
Dywedodd Ibrahim Mogra, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Cyngor Mwslimaidd Prydain wrth y rhaglen fod e’n meddwl bod hyn yn “syniad gwych”.
Digwyddodd y drasiedi wrth i Fwslemiaid ledled y byd ddathlu’r ŵyl fawr, Eid al-Adha, sy’n cael ei hadnabod fel Gŵyl Aberth.