Gerddi'r Orsedd yng Nghaerdydd
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio ail ddyn wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i dri ymosodiad rhyw a ddigwyddodd yn y brifddinas yr wythnos hon.

Mae’r dyn, 40 oed o ardal Glan yr Afon yn y ddinas wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad cyntaf ac mae wedi cael ei gadw yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.

Roedd dyn 22 oed o Gaerdydd wedi cael ei arestio ddoe ac mae yn y ddalfa o hyd.

Tri digwyddiad ‘tebyg’ ers dydd Sul

Bu tri ymosodiad rhyw yn y ddinas ers dydd Sul.

Mae’r heddlu wedi dweud y bydd swyddogion heddlu ychwanegol yn parhau ar batrôl i dawelu meddyliau trigolion yr ardal.

Yn y cyfamser mae’r heddlu wedi cynghori pobl i fod yn wyliadwrus ac i gymryd camau i ddiogelu eu hunain gan gynnwys aros mewn parau neu grwpiau wrth gerdded o gwmpas yn y nos, yn ogystal â chadw at leoedd sydd â digon o olau, ac yfed yn gyfrifol.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.