Twnnel y Sianel
Mae ffoadur ifanc wedi cael ei ladd tra’n ceisio croesi Twnnel y Sianel ar ei ffordd i Brydain, meddai swyddogion.
Credir bod y bachgen rhwng 15 a 17 oed ac yn dod o Eritrea neu Sudan yn nwyrain Affrica.
Yn ôl adroddiadau, bu farw ar ôl cael ei daro gan drên nwyddau.
Cafwyd hyd i’r bachgen yn anymwybodol ar ochr y cledrau a bu farw yn y fan a’r lle nos Fercher.
Mae’n debyg mai’r bachgen yw’r 12fed person i gael ei ladd yn Nhwnnel y Sianel neu yn agos at fynedfa’r Twnnel yn Calais ers i’r argyfwng ffoaduriaid ddechrau ym mis Mehefin.
Dywedodd llefarydd ar ran Cwmni Eurotunnel: “Mae’r digwyddiad hwn yn hynod drist. Ond yn anffodus, mae’n dangos unwaith eto y peryglon sydd ynghlwm wrth geisio croesi i’r DU yn anghyfreithlon.”