Mae 496 o achosion newydd wedi eu hychwanegu at yr ymchwiliad i fethiannau adran famolaeth sy’n gwasanaethu rhannau o Bowys.
Erbyn hyn, mae bron 1,900 o achosion yn rhan o’r ymchwiliad i weithgareddau Ymddiriedolaeth Iechyd Shropshire a Telford, sy’n cynnwys nifer sylweddol o farwolaethau babanod.
Fe gafodd yr achosion newydd eu cynnwys ar ôl i’r Ymddiriedolaeth edrych ar eu cofnodion papur yn ogystal â’u cofnodion digidol – hynny wedi i deuluoedd gwyno nad oedd eu hachosion yn cael eu hystyried gan yr ymchwiliad.
Llythyr agored
Mewn llythyr agored heddiw at bobol ardal yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys ‘Canolbarth Cymru’, mae’r Prif Weithredwr presennol yn dweud eu bod yn cymryd yr ymchwiliad yn gyfangwbl o ddifri.
“Mae angen mwy nag ymddiheuriad,” meddai Louise Barnett. “Fe ddylen ni fod wedi cynnig llawer gwell gofal i’r teuluoedd yma ar un o’r adegau pwysica’ yn eu bywydau ac rydyn ni wedi eu methu nhw.”
Fe ddywedodd bod gwelliannau eisoes wedi eu gwneud a’u bod eisiau dysgu gwrando’n well ar ddefnyddwyr eu gwasanaethau.
Achosion cynnar – un o’r Drenewydd
Mam o’r enw Rhiannon Davies oedd un o’r rhai cynta’ i dynnu sylw at y problemau yn yr Ymddiriedolaeth ar ôl marwolaeth ei merch Kate Seren Stanton-Davies ychydig oriau ar ôl cael ei geni ar Fawrth 1, 2009.
Fe gafodd y fydwraig yn yr achos hwnnw ei diarddel oherwydd ei methiant i ofalu’n iawn am y plentyn.
Mae teulu o’r Drenewydd hefyd wedi bod yn amlwg yn yr ymgyrch; fe gafodd Kate ac Andrew Barnett ymddiheuriad yn 2017 ar ôl marwolaeth eu mab yn ddeuddydd oed bedair blynedd ynghynt.
Eu hachos nhw oedd un arall o’r rhai cynta’ i gael ei ystyried, cyn i faint y problemau yn yr Ymddiriedolaeth ddod i’r amlwg.
Mae Louise Barnett wedi pwysleisio bod modd i deuluoedd eraill gysylltu â nhw o hyd, hyd yn oed os nac ydyn nhw’n rhan o’r ymchwiliad dan arweiniad y fydwraig brofiadol Donna Ockenden.