Mae ysbytai maes Cymru’n paratoi i fod ar gael dros fisoedd y gaeaf yn sgil pryderon ynghylch ail don o’r coronafeirws, yn ôl Vaughan Gething.

Daw sylwadau’r Ysgrifennydd Iechyd yn ei gynhadledd ddyddiol heddiw (dydd Mawrth, Gorffenaf 21) wrth iddo amlinellu sefyllfa’r ysbytai maes a’r ap sy’n olrhain achosion o’r feirws.

Mae 17 o ysbytai maes wedi’u codi yn y wlad i leihau’r pwysau ar ysbytai cyffredin, ac yn ymhlith yr adeiladau a gafodd eu haddasu roedd Stadiwm Principality a sawl theatr.

Dim ond Ysbyty’r Ddraig, ysbyty maes Stadiwm Principality, sydd wedi derbyn cleifion hyd yn hyn ond fe allai nifer yn rhagor gael eu defnyddio yn ystod y gaeaf pan allai achosion fod ar eu hanterth unwaith eto.

Dywedodd Vaughan Gething fod 5,000 o wlâu ychwanegol ar gael mewn ysbytai maes pe bai angen, ac mai’r “senario tebygol” yw y bydd angen defnyddio rhai ohonyn nhw yn ystod y gaeaf.

Er hynny, mae’r ysbyty maes ar safle hyfforddi tîm rygbi Cymru yn ardal Cwm Taf Morgannwg eisoes wedi cael ei ddadgomisiynu.

Dywed Vaughan Gething y bydd yn gwneud cyhoeddiad pellach ym mis Medi.

Ap olrhain achosion

Wrth drafod y dechnoleg i olrhain achosion o’r feirws, dywed Vaughan Gething y dylid defnyddio’r ap fel “ychwanegiad” at y cynlluniau eraill, ac nid “yr unig ffordd” o olrhain achosion.

“Mae’r ap o gymorth, ond dydy e ddim yn rhan hanfodol o olrhain cysylltiadau,” meddai.

“Mae’n fater o wneud y defnydd mwyaf o’r dechnoleg newydd rydym wedi ei chyflwyno’n ddiweddar ac mewn rhai achosion, defnyddio gwasanaethau mewn ffordd wahanol i sicrhau ein bod ni’n cael y gofal cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir.”