Mae dyn arfog yn dal tuag 20 o wystlon yn gaeth ar ôl cymryd rheolaeth o fws yng ngogledd-orllewin yr Wcráin.

Mae’r heddlu wedi cau canol Lutsk, sy’n ddinas 250 milltir i’r gorllewin o’r brifddinas, Kyiv.

Mewn datganiad ar wefan Facebook, dywed yr heddlu bod y dyn yn arfog ac yn cario ffrwydron.

Sŵn gwn

Yn ôl adroddiadau ar y cyfryngau, roedd sŵn gwn wedi cael ei glywed o’r bws, ond dyw hi ddim yn glir os yw unrhyw un wedi cael eu hanafu.

Yr ymosodwr a alwodd yr heddlu, gan ddweud mai ei enw oedd Makism Plokhoy, yn ôl dirprwy weinidog cartref yr Wcrain, Anton Gerashchenko, sy’n hedfan i Lutsk ar hyn o bryd.

Mae Arlywydd yr Wcrain Volodymyr Zelenskiy yn dweud ei fod yn monitro’r sefyllfa’n bersonol, gan ychwanegu bod mesurau’n cael eu cymryd i ddatrys y sefyllfa heb farwolaethau.