Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi codiad o 2.8% yng nghyflog meddygon a deintyddion.
Bydd pob grŵp o feddygon a deintyddion yn cael y 2.8% o gynnydd, gan gynnwys ymgynghorwyr, meddygon dan hyfforddiant, meddygon arbenigol ac arbenigol cyswllt, ymarferwyr cyffredinol sy’n derbyn cyflog a deintyddion.
Mae’r cynnydd yng nghyflog ymarferwyr cyffredinol a deintyddion dan gontract yn rhan o newidiadau contract cyffredinol, a bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r cyrff perthnasol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd “sydd unwaith eto wedi dangos ei ymroddiad diwyro drwy ddarparu gofal iechyd rhagorol mewn amgylchiadau eithriadol o anodd yn ddiweddar”.
“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddaf yn derbyn argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion yn llawn,” meddai Vaughan Gething.
“Dydy Trysorlys y Deyrnas Unedig ddim wedi rhoi cyllid ychwanegol i helpu i dalu am gost unrhyw gynnydd dros 1% a argymhellir ac felly bydd angen i’r cyllid ychwanegol ddod o gyllidebau presennol.”