Mae’r achos llys yn erbyn pum cyn-aelod seneddol Catalwnia oedd yn flaenllaw yn ystod anterth y galw am annibyniaeth yn 2017 wedi dechrau heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 21) yn uchel lys Catalwnia.

Mae’r Erlynydd Cyhoeddus yn gofyn am wahardd Lluís Corominas, Ramona Barrufet, Lluís Guinó, Anna Simó a Mireia Boya a dirwyon o hyd at 30,000.

Ac mae’r Cyfreithiwr Cyffredinol yn gofyn am yr un ddedfryd ar gyfer pob un ohonyn nhw – ond am ddirwy ychydig yn is ar gyfer Boya, 24,000 ewro.

Mae’r blaid asgell dde Vox,  sef yr erlynydd preifat yn yr achos, yn gofyn am 12 mlynedd o garchar ar gyfer pob un ohonyn nhw, gwaharddiad am ddwy flynedd a dirwy o 3.2m ewro ar gyfer pob un ar gyhuddiadau o drefnu trosedd ac anufudd-dod.

Mae Corominas, Barrufet, Guinó a Simó yn y doc am dderbyn trafodaeth a phleidleisio ar sawl cynnig a bil sy’n gysylltiedig â’r ymgyrch annibyniaeth.

Yn y cyfamser, mae Boya hefyd yn wynebu’r llys am ei chyfraniad yn yr ymgyrch annibyniaeth a ddaeth i’w uchafbwynt yn y refferendwm ar Hydref 1, 2017 heb ganiatâd Sbaen, a’r datganiad o annibyniaeth yn y Senedd bedair wythnos yn ddiweddarach .

Mae’r cyn-Aelod Seneddol Anna Gabriel hefyd yn rhan o’r achos, ond aeth yn alltud yn y Swistir i osgoi cael ei barnu.

 “Ymwybodol ”

Mae’r Erlynydd Cyhoeddus yn cyhuddo’r pedwar cyn-aelod o fod yn  “ymwybodol” o ddiffyg cydymffurfio â’u dyletswydd o beidio â derbyn rhai camau seneddol ar ôl sawl rhybudd gan Lys Cyfansoddiadol Sbaen.

Dydy’r Erlynydd Cyhoeddus ddim yn gofyn am ddedfryd o garchar i’r pedwar cyn-aelod seneddol, ond mae wedi gofyn am 17 mlynedd o garchar i gyn Lefarydd y Senedd, Carme Forcadell, arweinydd Swyddfa’r Siambr honno ar gyhuddiadau o wrthryfela.