Mae Theresa May am geisio newid y gyfraith i sicrhau bod gyrwyr sy’n llofruddio drwy yrru’n beryglus yn wynebu dedfryd oes yn y carchar.

Mae’r cyn-Brif Weinidog eisiau cyflwyno’r Bil Marwolaeth Drwy Yrru Peryglus i’r Tŷ Cyffredin.

Byddai hyn yn diwygio deddfwriaeth o 1988 ac yn cynyddu’r ddedfryd uchaf am achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus o 14 mlynedd yn y carchar i garchar am oes.

Cafodd y mater ei adolygu gan lywodraeth Theresa May gan arwain at ymrwymiad yn 2017 y byddai gyrwyr sy’n achosi marwolaeth drwy oryrru, rasio neu ddefnyddio ffôn symudol yn wynebu’r posibilrwydd o ddedfryd oes.

Byddai gyrwyr sy’n achosi marwolaeth drwy ddreifio’n ddi-hid tra o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau hefyd yn wynebu dedfryd oes yn sgil y cynllun.

Ond chafodd yr ymrwymiad ddim ei wireddu’n gynharach y flwyddyn hon gan arwain at Theresa May yn gwthio’r Llywodraeth i fwrw ymlaen gyda’r polisi ar fyrder.

“Fe wnaeth y llywodraeth flaenorol ymrwymo i ddedfrydu ar y mater hwn i gyflwyno dedfryd hirach mewn amgylchiadau penodol,” meddai Theresa May yn Nhŷ’r Cyffredin fis Ionawr.

“Dyw hyn ddim yn Araith y Frenhines. Ydi’r Llywodraeth hwn yn barod i ddedfrydu, ac os felly, pryd?”

Atebodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Robert Buckland, drwy ddweud: “Dwi eisiau bwrw ymlaen gyda hyn. Mae’r ymrwymiad dal i fod yn hollol glir. Rwyf yn gobeithio fod gennym ffordd o wneud hynny”.

Bydd Theresa yn defnyddio’r weithdrefn cynnig rheol i geisio cyflwyno hyn.

Mae disgwyl i hyn fynd drwy’r Senedd ar Orffennaf 21. Os yw’n llwyddiannus ar y diwrnod hwnnw, bydd yn rhaid i’r bil glirio sawl cam pellach cyn iddo ddod yn gyfraith – ond gallai gael ei helpu gan gefnogaeth y Llywodraeth.