Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bygwth gweithredu yn erbyn unrhyw fusnes sy’n anwybyddu cyfyngiadau’r coronafeirws.

Daw’r rhybudd ar ôl i ynadon orfodi campfa yn ardal Fforest-fach y ddinas i gau ei drysau ar ôl i’r perchnogion anwybyddu sawl cais gan swyddogion safonau masnachu a’r heddlu i beidio ag agor er mwyn gwarchod y gymuned leol.

Cafodd Thomas Owen, perchennog Bomking, orchymyn gan ynadon ddydd Llun (Gorffennaf 6) i beidio â pharhau i agor.
Roedd e eisoes wedi derbyn gorchymyn cau a dau hysbysiad cosb benodedig.

Er bod y perchennog wedi gosod yr adeilad fel ei fod yn edrych fel pe bai ynghau, roedd y maes parcio’n llawn a cherddoriaeth i’w chlywed yn dod o’r adeilad.

Dyma’r achos llys cyntaf o’i fath yn Abertawe yn ymwneud â’r coronafeirws.

Clywodd y llys fod y gampfa wedi cau ar unwaith yn dilyn un ymweliad, ond fod neges ar dudalen Facebook y cwmni’n dweud yn fuan wedyn y byddai’r gampfa’n agor eto ymhen rhai diwrnodau, gan ymddiheuro am yr anghyfleustra.

‘Neges gref’

Yn ôl y Cyngor, mae’r achos yn anfon “neges gref” y bydd unrhyw un sy’n anwybyddu’r rheolau’n wynebu achos llys.

“Ry’n ni i gyd yn gwybod fod Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn bod campfeydd a chanolfannau hamdden yn cau ym mis Mawrth oherwydd y risg maen nhw’n ei pheri wrth ledaenu’r coronafeirws,” meddai llefarydd.

“Mae bron pawb wedi cydymffurfio oherwydd roedden ni’n gallu gweld y fantais i’w staff, eu cwsmeriaid a’r gymuned ehangach.

“Maen nhw’n parhau i ddilyn y rheolau a dw i am ddiolch iddyn nhw am helpu i gadw’n cymunedau’n ddiogel, er gwaetha’r heriau sydd yna i’w busnesau.

“Fodd bynnag, fe wnaeth Mr Owen benderfynu parhau i fasnachu, er gwaethaf sawl ymweliad gan ein swyddogion safonau masnachu a’r heddlu.

“Yn y pen draw, doedd gyda ni ddim dewis ond mynd i’r llys.”