Fydd economi Prydain ddim yn cael ei hadfer i lefelau cyn y pandemig coronafeirws cyn 2024, hyd yn oed heb ail don o’r coronafeirws, yn ôl ymchwil newydd.

Mae adroddiad gan gyfrifwyr BDO a’r Ganolfan Ymchwil Economaidd a Busnes (CEBR) yn darogan y bydd cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) yn disgyn 11% eleni, ond dim ond os na fydd ail don o’r coronafeirws neu warchae arall yn genedlaethol.

Byddai ton arall o’r pandemig a gwarchae yn arwain at ostyngiad o 19% mewn cynnyrch mewnwladol crynswth yn ogystal â chwymp o 23% mewn allforion, meddai’r adroddiad.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhybuddio am y “bygythiad deuol” mae’r pandemig a Brexit yn ei beri i fasnachu rhyngwladol, gyda’r ddau senario yn effeithio diwydiant allforio’r Deyrnas Unedig.

Mae’n bosib y bydd allforion yn adfer rhywfaint yn 2021 cyn marweiddio, yn ôl yr adroddiad.

Dywed yr adroddiad y bydd buddsoddiad busnes yn cwympo 14% yn 2020, gan aros yn isel cyn codi 7% yn 2021 wrth i’r economi sefydlogi.

Ond byddai ail don a gwarchae yn golygu bod buddsoddiad yn plymio 19%, meddai’r adroddiad.

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd Andy Haldane, prif economegydd Banc Lloegr, fod economi Prydain ar y trywydd iawn am adferiad siâp V wrth i’r economi adfer yn gyflymach na’r disgwyl.

Daeth ei sylwadau ar ôl i’r Banc ddweud ei fod yn disgwyl i gynnyrch mewnwladol crynswth ddisgyn 20% yn hanner cyntaf y flwyddyn, sy’n llai na’r 27% gafodd ei ddarogan yn ei ragolygiad mis Mai.