Mae promenâd Hen Golwyn wedi ail agor ar ôl chwe mis ynghau er mwyn gwneud gwaith atgyweirio.
Bwriad y gwaith oedd i wella’r amddiffynfeydd môr a llwybr teithio llesol yn Splash Point (ger Bwâu Hen Golwyn).
Roedd y promenâd wedi’i ddifrodi yn ystod stormydd, gan roi’r A55 a phontydd rheilffordd cenedlaethol mewn perygl o dywydd difrifol yn y dyfodol, ac felly roedd prosiect Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnwys gosod gwrthglawdd creigiau i ddiogelu’r morglawdd Fictoraidd bregus yn ochr ddwyreiniol y promenâd.
Roedd y prosiect £1.6miliwn, a gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cynnwys gwelliannau i’r llwybr teithio llesol, a rennir gan gerddwyr a beicwyr.
Gwelliannau
“Rydym wedi gwella’r ramp mynediad i’r traeth a gosod croesfan blaenoriaeth, yn ogystal â safle parcio beics newydd a gorsaf atgyweirio i feicwyr,” meddai’r Cynghorydd Greg Robbins, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Chludiant.
“Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys maes parcio i’r anabl. Mae yna ychydig o bethau ar ôl i’w gwneud, gan gynnwys polion lamp a meinciau, a gwneir hyn yn yr wythnosau nesaf.
“Mae’r Covid-19 wedi achosi oedi gyda chyflenwi, ond doedden ni ddim eisiau i drigolion orfod aros yn hirach i gael mynediad i’r promenâd.
“Hoffem ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd tra rydym wedi bod yn gwneud y gwaith hwn.”
Sicrhau mwy o gyllid
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi sicrhau £6.075miliwn pellach gan Lywodraeth Cymru i barhau â’r gwaith ar gynllun amddiffyn arfordir Hen Golwyn.
Mae’r cyllid ychwanegol yn rhan o Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru sy’n cyfrannu at atgyweirio ffyrdd yn dilyn stormydd a gwella llwybrau cerdded a beicio.
Bydd yr arian ychwanegol hwn yn caniatáu i’r Cyngor ymestyn amddiffynfeydd arfordirol a gwelliannau i’r promenâd i’r gorllewin tuag at Borth Eirias.