Mae pennaeth Heddlu Llundain wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd yr athletwraig groenddu Bianca Williams a’i phartner Ricardo dos Santos eu trin pan gawson nhw eu stopio wrth yrru drwy’r ddinas.

Cafodd eu car BMW ei stopio ac mae’r cwpwl wedi cyhuddo’r heddlu o wneud hynny yn sgil lliw eu croen.

Cawson nhw eu rhoi mewn gefynnau, ac roedd eu babi tri mis oed yng nghefn y car pan gawson nhw eu llusgo o’r cerbyd.

Mae fideo o’r digwyddiad wedi mynd ar led ar y we.

Fe wnaeth yr heddlu gyfeirio’u hunain ar gyfer ymchwiliad annibynnol, er bod yr heddlu eu hunain wedi dod i’r casgliad nad oedd y plismyn wedi ymddwyn yn amhriodol.

Ymddiheuriad

“Fe wnaethon ni ymddiheuro wrth Ms Williams ddoe, a dw i’n ymddiheuro eto am yr aflonyddwch gafodd ei achosi iddi yn sgil cael ei stopio,” meddai’r Fonesig Cressida Dick wrth y Pwyllgor Materion Cartref.

Eglurodd fod y penderfyniad i drosglwyddo’r achos wedi cael ei wneud yn sgil “maint pryder y cyhoedd”.

Dywedodd fod yr heddlu’n fodlon ar ôl archwilio’r cerbyd nad oedd unrhyw beth o’i le, a’i bod hi wedi gofyn i gydweithiwr edrych ar yr arfer o roi pobol mewn gefynnau cyn archwilio cerbydau er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd heb reswm.

Yn ôl yr heddlu, roedden nhw’n archwilio cerbydau yn sgil cynnydd mewn troseddau treisgar yn Llundain yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Dywedodd yr heddlu ar y pryd fod cerbyd Bianca Williams a Ricardo dos Santos wedi cael ei weld yn cael ei yrru’n ddiofal ac ar ochr anghywir yr heol, a bod y gyrrwr wedi gyrru i ffwrdd ar gyflymdra uchel pan gafodd e gais i stopio.

Ond mae Bianca Williams yn gwadu bod hynny wedi digwydd, gan ddweud ei bod hi’n ystyried dwyn achos yn erbyn yr heddlu.