Mae Heddlu Serbia yn dweud bod 23 o bobol yn y ddalfa a bod ugeiniau o blismyn a phrotestwyr wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdaro ar ôl i arlywydd y wlad gyhoeddi bod cyfyngiadau coronafeirws wedi cael eu hailgyflwyno.

Dywedodd Vladimir Rebic wrth RTS, gorsaf deledu’r wladwriaeth, fod yr heddlu yn ceisio adnabod mwy o bobol a gymerodd ran yn y cythrwfl yn Belgrade, a adawodd 43 o swyddogion yr heddlu a 17 o brotestwyr ag anafiadau.

Aeth miloedd o bobol allan i’r strydoedd nos Fawrth (Gorffennaf 7),  ar ôl i’r Arlywydd Aleksandar Vucic gyhoeddi y bydd cyrffyw yn cael ei osod am y penwythnos cyfan yn Belgrade yn sgil y nifer fwyaf o farwolaethau mewn un diwrnod yn sgil y coronafeirws.

Bu farw 13 o bobol, wrth i 299 o achosion newydd gael eu cyhoeddi.

Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth ar ôl i rai o gefnogwyr grwpiau asgell dde ruthro i mewn i’r Senedd yn ystod protestiadau, ac fe ymatebodd yr heddlu drwy daflu nwy dagrau.

Mae Aleksandar Vucic wedi disgrifio sefyllfa’r feirws yn Belgrade fel un “frawychus”, gan ddweud bod ysbytai’r brifddinas yn llawn.