Mae Jean Castex, prif weinidog newydd Ffrainc, dan y lach am benodi gweinidog i’w gabinet sydd wedi cael ei amau o dreisio.

Mae Gerald Darmanin wedi’i benodi i ofalu am gyfreithiau Ffrengig yn ei rôl newydd, ar ôl cael ei ddyrchafu o fod yn gyfrifol am y Gyllideb.

Ond mae’r prif weinidog yn ei gefnogi yn wyneb protestiadau gan ymgyrchwyr.

Mae’r Arlywydd Emmanuel Macron hefyd yn cael ei gyhuddo o dorri addewid i sicrhau cydraddoldeb rhwng dynion a menywod.

Yn ôl Jean Castex, mae gan ei gydweithiwr yr hawl i fod yn ddieuog oni bai bod modd profi’n wahanol.

Mae Gerald Darmanin yn gwadu’r honiadau, ac mae swyddfa’r arlywydd yn mynnu nad yw’r achos yn ei atal rhag ymgymryd â’r swydd.

Cefndir

Fe wnaeth dynes gwyno yn 2017 fod Gerald Darmanin wedi ei threisio hi pan aeth hi ato am gymorth cyfreithiol yn 2009.

Gerald Darmanin yw’r gwleidydd mwyf blaenllaw yn Ffrainc i wynebu honiadau yn ystod oes #MeToo.

Ond mae’n dweud bod y ddynes sy’n gwneud yr honiadau wedi cydsynio, ac fe wnaeth e ddwyn achos enllib yn ei herbyn.