Fe fydd cwmni Uber yn lansio gwasanaeth cychod ar afon Tafwys yn ddiweddarach yn yr haf.

Bydd modd bwcio cwch trwy fynd i ap y cwmni.

Bydd y gwasanaeth newydd ar gael rhwng Putney a Woolwich, gwasanaeth parhaol cyntaf Uber o’r math yma, a byddan nhw’n cydweithio â chwmni bysiau Thames Clippers.

Yn ôl y cwmni, maen nhw’n ateb y galw am ffyrdd newydd o deithio ym mhrifddinas Lloegr, yn enwedig wrth i bobol ddechrau dychwelyd i’r gwaith yn dilyn y coronafeirws.

Dywed y ddau gwmni y bydd y gwasanaeth yn gysurus, dibynadwy a diogel.