Mae ymwelwyr wedi cael eu gwahardd rhag mynd i gartref un o drigolion Rhydaman, lle mae cymdogion wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus.

Mae’r gorchymyn yn atal unrhyw un ar wahân i’r sawl sydd yn byw yno rhag mynd i mewn i’r tŷ, ar ôl i Heddlu Dyfed-Powys wneud cais am orchymyn yn dilyn sawl mis o waith i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn yn yr eiddo.

“Roedd y cais llwyddiannus hwn yn ganlyniad ymdrech y tîm yn dilyn nifer o ddigwyddiadau,” meddai’r Cwnstabl Steve Morris.

“Rydym wedi cael ein galw i’r cyfeiriad nifer o weithiau dros y misoedd diwethaf, ac mae cymdogion wedi cyrraedd pen eu tennyn.

“Y rhybudd hwn oedd y cam olaf i dargedu’r ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus yn y cyfeiriad hwn.

“Mae nifer o ymdrechion blaenorol wedi’u gwneud i ddatrys y problemau yma drwy weithio gyda’r tenant, ond heb unrhyw effaith gadarnhaol. ”

Y Gorchymyn

Cafodd tystiolaeth ei rhoi i Lys Ynadon Llanelli, a chafodd y gorchymyn ei gyhoeddi ddydd Gwener (Gorffennaf 3).

Tan ganol nos ar Hydref 2, mae pawb ac eithrio’r unigolyn sydd wedi’i enwi yn y gorchymyn ac unrhyw gynrychiolydd o’r cwmni cartrefi – a elwid yn Gwalia gynt – wedi’u gwahardd rhag mynd i’r eiddo neu’r ardd gymunedol gyfagos.

“Mae’n gam prin i gyhoeddi hysbysiad cau ar eiddo preswyl,” meddai’r Arolygydd Bleddyn Jones.

“Ond ar ôl ystyriaeth ofalus a thrafodaethau gydag asiantaethau sy’n bartneriaid, barnwyd mai dyma’r cam mwyaf priodol i’w gymryd.

“Bydd unrhyw un sy’n cael ei weld yn ymweld â’r eiddo yn mynd yn groes i’r gorchymyn ac yn wynebu dirwy, carchar neu’r ddau.”