Mae Llywodraeth Prydain wedi cael eu cyhuddo o “dawelwch byddarol” ynghylch ymdrechion Israel i atodi rhannau helaeth o’r Lan Orllewinol mewn anghydfod â Phalesteina.
Mae Lisa Nandy, llefarydd materion tramor Llafur yn San Steffan, yn dweud bod arweinwyr gwleidyddol o bedwar ban wedi rhybuddio am y canlyniadau pe bai’n mynd rhagddo.
Ond mae James Cleverly, y Gweindiog Materion Tramor, yn dweud y bydd y llywodraeth yn parhau i ddwyn perswâd ar Israel, eu “ffrind a chynghreiriad”.
“Mae arweinwyr y byd yn rhybuddio am y canlyniadau pe bai’r atodi’n mynd rhagddo ond mae tawelwch y llywodraeth hon wedi bod yn fyddarol,” meddai Lisa Nandy.
“Cymaint felly nes bod y papur newydd Israeli Haaretz yn dweud nawr mai Ffrainc yw gobaith gorau’r byd o atal yr atodi.
“Mae hyn wir yn gywilyddus.”
‘Ffrind a chynghreiriad’
“Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau’n ffrind a chynghreiriad i wladwriaeth Israel ac yn ffrind da i bobol Palesteina,” meddai James Cleverly.
“Mae’n demtasiwn, a dw i’n sicr y byddai’n plesio rhai lleisiau ar ochr chwith y sbectrwm gwleidyddol pe baen ni’n stompio’n traed ac yn taro’r bwrdd.
“Yr hyn y byddwn ni’n parhau i’w wneud yw annog ffrind a chyngreiriad, sef gwladwriaeth Israel, rhag mynd ar drywydd rydyn ni’n credu y bydd yn erbyn eu buddiannau eu hunain, a byddwn yn gwneud hynny yn y modd mwyaf effeithiol posib.”
Dywedodd wedyn mai dwy wladwriaeth fyddai’r ateb gorau, ac y bydd Llywodraeth Prydain yn parhau i geisio hynny.