Mae Narendra Modi, prif weinidog India, yn dweud bod y coronafeirws dan reolaeth yn y wlad, ond mae’n rhybuddio ar yr un pryd fod y wlad wedi cyrraedd “croesffordd”.

Daeth ei sylwadau mewn anerchiad i’r genedl, y chweched ers dechrau’r ymlediad sydd wedi gweld bron i 560,000 o bobol yn cael eu heintio a mwy nag 16,000 o bobol yn marw.

India yw’r bedwaredd gwlad ar y rhestr o’r nifer fwyaf o achosion, ar ôl i’r nifer gynyddu’n sylweddol wrth lacio’r cyfyngiadau ddechrau’r mis.

Tra bod rhai cyfyngiadau o hyd, mae busnesau ar agor eto ac mae mwy o bobol ar y strydoedd erbyn hyn.

Mae disgwyl i ddogni bwyd barhau tan fis Tachwedd.

“Mae pobol yn dod yn ddiofal,” meddai’r prif weinidog.

“Mae angen i ni dynnu sylw at y rhai sy’n torri’r rheolau.”