Mae staff Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy’n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Ceredigion wedi diolch am y gefnogaeth maent wedi ei dderbyn yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cafodd cyfanswm o dros £100,000 ei godi ar gyfer staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhwng mis Mawrth a diwedd mis Mehefin yn sgil Apêl GIG COVID-19 Hywel Dda.

Ar ben hynny, mae gwerth dros £20,000 o eitemau ar Amazon wedi cael eu prynu i gleifion drwy Apêl Cleifion Hywel Dda.

Mewn fideo sydd wedi cael ei ryddhau ar dudalen Facebook Elusennau Iechyd Hywel Dda heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 30), mae staff wedi darllen cerdd ‘Diolch’ gan y bardd lleol Tudur Dylan Jones.

“Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi cael ein llethu gan y gefnogaeth a’r haelioni rydych chi wedi’i ddangos i staff, gwirfoddolwyr a chleifion y GIG,” meddai datganiad ar y fideo Facebook.

Mae’r fideo yn nodi diwedd Apêl Hywel Dda COVID-19.

https://www.facebook.com/ElusennauIechydHywelDda/videos/3001459166603357/

Yr ymdrechodd amlycaf

Ymysg yr ymdrechodd mwyaf amlwg i godi arian oedd Rhythwyn Evans o Silian a wnaeth lwyddo i godi £44,000 drwy wneud 91 lap o’i ardd ar ei ben-blwydd yn 91 oed.

Tra bod Gwyndaf Lewis o Efailwen wedi codi dros £37,000 ar gyfer yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Glangwili drwy redeg 50 cilomedr – roedd yn gwneud hyn er cof am ei fam a fu farw o’r coronafeirws.