Bydd deintyddion ac arbenigwyr optometreg ledled Cymru yn ailddechrau cynnig mwy o’u gwasanaethau fel rhan o adferiad fesul cam y gwasanaethau iechyd ar ôl argyfwng y coronafeirws.

Maen nhw wedi cynyddu eu darpariaeth o wasanaethau ers Mehefin 22, gan ddechrau ailgynnig triniaethau ychwanegol i gleifion sydd â’r angen mwyaf, a bydd rhagor o wasanaethau’n ailddechrau’n raddol.

Bydd y rheini sydd wedi cael problemau difrifol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau llym, a’r rheini sydd ag anghenion gofal brys, yn cael blaenoriaeth wrth i arbenigwyr symud at ddarparu eu gwasanaethau arferol unwaith yn rhagor.

Gofal brys

Yn wahanol i Loegr, mae llawer o ddeintyddfeydd yng Nghymru wedi parhau ar agor i ddarparu gofal brys yn ystod y pandemig.

Mae dros 16,500 o gleifion wedi cael eu gweld gan ddeintyddion yng Nghymru ers canol mis Mawrth, ac mae 180,000 yn rhagor wedi cael eu hasesu o bell dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo.

Mae 87 o’r 400 o ganolfannau optometreg yng Nghymru wedi aros ar agor yn ystod y pandemig hefyd, gan ddarparu gofal brys a hanfodol i fwy na 19,000 o gleifion.

Ddim yn ôl i’r drefn arferol eto

Fodd bynnag, yn ôl Llywodraeth Cymru, ddylai cleifion ddim disgwyl sefyllfa lle y bydd hi’n fusnes fel arfer, gan ei bod yn debygol y bydd yn cymryd amser cyn y bydd modd cynnig yr ystod lawn o wasanaethau – gan gynnwys y triniaethau deintyddol sy’n cynhyrchu chwistrell o ddiferion mân a allai ledaenu’r feirws.

Oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol a rheoli’r haint, bydd arbenigwyr hefyd yn gweithredu ar gapasiti llawer is na’u capasiti blaenorol yn ystod y cyfnod hwn.

“Bydd ailddechrau gwasanaethau’n broses gymhleth,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Rydyn ni’n cydweithio’n agos gyda’r cyrff proffesiynol perthnasol, ac rydyn ni’n hyderus y bydd deintyddion ac optometryddion yng Nghymru yn parhau i gadw at fesurau llym, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, er mwyn diogelu staff a chleifion.

“Er na allwn ni ddychwelyd i sefyllfa o fusnes fel arfer eto, rydyn ni’n annog y rheini y mae angen triniaeth arnyn nhw i sicrhau eu bod yn ei chael er mwyn osgoi anawsterau gwaeth yn y tymor hir.”

Blaenoriaethu

Dywedodd y deintydd Jeremy Williams o bractis Rosehill yng Nghonwy eu bod wedi aros ar agor drwy gydol y pandemig, gan ddarparu gofal brys i dros 400 o gleifion.

“Nawr, rydyn ni’n dechrau cysylltu â chleifion eraill i ganfod beth yw eu hanghenion gofal,” meddai.

“Bydd hynny’n ein galluogi i flaenoriaethu triniaeth gychwynnol ar gyfer y rhai sydd ei hangen fwyaf.

“Deallwn y bydd rhai cleifion yn teimlo ychydig yn bryderus ynghylch dechrau defnyddio gwasanaethau eto.

Rydym am eu sicrhau ein bod wedi rhoi ystod o fesurau ar waith o fewn y practis fel y gallan nhw deimlo’n gyfforddus yn dychwelyd atom am driniaeth.”