Mae dyn oedrannus wedi cael man anafiadau wedi iddo achosi gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd drwy yrru’r ffordd anghywir ar yr M40 yn Swydd Warwick.

Bu’n rhaid i’r gwasanaethau brys dorri’r dyn allan o’i gar a’i gludo i’r ysbyty yn Coventry yn dilyn y digwyddiad am 6.15 fore Sul.

Cafodd dau ddyn arall driniaeth gan barafeddygon ar y ffordd rhwng Lapworth a Warwick.

Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaethau brys fod y tri dyn yn ffodus nad oedden nhw wedi’u hanafu’n ddifrifol.