Cafodd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Peter Robinson ei gludo i’r ysbyty yn Belfast nos Sadwrn.
Fe fu arweinydd y Blaid Unoliaethwyr Democrataidd yn brysurach nag arfer yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yn union yw natur ei salwch.
Fe dreuliodd bedair noson yn yr ysbyty ym mis Mai yn dilyn pryderon ei fod wedi cael trawiad ar y galon.
Dywedodd y DUP mewn datganiad fod disgwyl iddo gael ei ryddhau o’r ysbyty’n fuan.