Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio tri o bobol ac o geisio llofruddio tri arall mewn parc yn Reading.

Bu farw James Furlong, 36, a’i ffrindiau David Wails a Joseph Ritchie-Bennett yn dilyn y digwyddiad yn Forbury Gardens ddydd Sadwrn diwethaf (Mehefin 20).

Cafodd tri arall driniaeth yn yr ysbyty cyn mynd adref.

Mae Khairi Saadallah wedi’i gyhuddo mewn perthynas â’r digwyddiad, ac fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Westminster yfory (dydd Llun, Mehefin 29).

Mae’r heddlu’n trin y digwyddiad fel ymosodiad brawychol, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

Daeth cadarnhad eisoes fod archwiliadau post-mortem yn dangos bod y tri dyn fu farw wedi cael eu trywanu unwaith yr un.

Mae teulu James Furlong wedi talu teyrnged i’r heddlu, a chafodd gwylnos ei chynnal neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 27) er cof am y rhai fu farw a bydd gwasanaethau coffa’n cael eu cynnal unwaith fydd modd i bobol ddod ynghyd wedi’r coronafeirws.

Mae llyfr coffa eisoes ar agor, a chafodd y tri dyn eu cofio yn ystod digwyddiad Pride yn Reading.