Mae Heddlu’r Alban wedi cyhoeddi mai dyn 28 oed o Swdan oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Glasgow ddydd Gwener (Mehefin 26).

Cafodd Badreddin Abadlla Adam ei saethu’n farw gan yr heddlu yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r Cwnstabl David Whyte, a gafodd ei anafu, bellach mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Cafodd tri cheisiwr lloches oedd yn aros yn y Park Inn Hotel, lle digwyddodd yr ymosodiad, a dau aelod o staff eu hanafu ac maen nhw i gyd yn yr ysbyty o hyd.

Mae un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol ond sefydlog, ac mae pewdar arall mewn cyflwr sefydlog.

Dywed yr heddlu iddyn nhw adnabod yr ymosodwr ar sail gwybodaeth gafodd ei rhoi i’r Swyddfa Gartref yn gynharach eleni, a’u bod nhw’n cynnal ymchwiliad i’r ymosodiad a’u defnydd nhw eu hunain o ddryll.