Ashya King
Mae’r ganolfan yn Prague sydd wedi rhoi triniaeth therapi proton i fachgen chwech oed o Loegr, oedd yn dioddef o ganser yr ymennydd, wedi dweud eu bod nhw “wrth eu bodd” o’i weld yn gwella.

Aeth rhieni Ashya King â’u mab adref o’r ysbyty yn Southampton fis Awst y llynedd wedi iddyn nhw wrthod y driniaeth oedd wedi’i gynnig iddo.

Cafodd Brett a Naghmeh King eu harestio yn Sbaen am fynd ag e dramor am driniaeth yn groes i gyngor yr ysbyty.

Ond fe gawson nhw ganiatâd gan yr Uchel Lys yn ddiweddarach i fynd i’r ganolfan yn Prague.

Mae therapi proton yn llai peryglus i organau plant na chemotherapi, ond fe wrthododd y Gwasanaeth Iechyd dalu am y driniaeth er iddyn nhw wneud tro pedol yn ddiweddarach.

Bellach, mae disgwyl i nifer o ganolfannau therapi proton agor yng ngwledydd Prydain y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Iva Tatounova o’r ganolfan yn Prague fod achos Ashya yn profi y dylid ystyried therapi proton fel triniaeth gychwynnol i blant.

‘Mynd i’r ysgol’

Dywedodd wrth raglen Good Morning Britain ar ITV: “Mae e’n rhagorol. Dw i wrth fy modd, mewn gwirionedd. Fe gerddodd e i mewn i’r ganolfan ar ei draed ei hun. Doedd dim angen cadair olwyn arno fe.

“Mae e’n siarad ac yn chwarae gyda phlant eraill a’i frodyr a’i chwiorydd, a’r wythnos nesaf, fe fydd e’n mynd i’r ysgol am y tro cyntaf.”

Ychwanegodd fod therapi proton “yn llai niweidiol” na thriniaethau eraill ar gyfer canser ymhlith plant.

“Mae hi wedi’i phrofi eisoes, nid yn unig yn achos Ashya, ond hyd yn oed ddeng mlynedd yn ôl. Dydy’r problemau hyn yn ddim byd newydd yn y byd yma. Nid arbrawf mo hwn.

“Mae therapi proton unwaith eto wedi profi ei manteision dros driniaethau eraill. Gobeithio y gallwn ni helpu rhagor o gleifion yn y DU.”

Mae mam-gu Ashya, Patricia King wedi beirniadu’r ffordd y gwnaeth awdurdodau Prydain ymdrin â’r achos.