Jeremy Corbyn
Fe fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn mynd benben â David Cameron am y tro cyntaf heddiw yn Sesiwn Holi’r Prif Weinidog.

Mae nifer yn darogan y bydd Corbyn yn ceisio dangos y gallai ei ddulliau radical asgell chwith greu problem i Cameron.

Eisoes, mae Corbyn wedi datgan ei fod yn awyddus i’r sesiynau fod yn llai theatrig ac yn fwy ffeithiol, gan awgrymu y gallai nifer o aelodau ei gabinet cysgodol ofyn cwestiynau yn y dyfodol.

Mae’r Ceidwadwyr ar y meinciau cefn wedi cael rhybudd i beidio herio Corbyn yn ormodol rhag i hynny ennyn cydymdeimlad y cyhoedd.

‘Heriol’

Ond mae Corbyn eisoes wedi dangos yn ystod cynhadledd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) ei fod yn barod i ddefnyddio iaith heriol.

Fe gyhuddodd weinidogion o “fynd i ryfel” â gweithwyr tros ddiwygio’r undebau llafur, gan achosi hunanladdiadau.

Fe fydd y Sesiwn hefyd yn gyfle i gabinet yr wrthblaid brofi eu hunain a’u hymddiriedaeth yn eu harweinydd newydd.

Mae’r Arglwydd Falconer, llefarydd cyfiawnder y Blaid Lafur, wedi dweud ei fod yn barod i ymddiswyddo pe bai Jeremy Corbyn yn cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm y flwyddyn nesaf.