Owen Smith
Lleihau’r cap ar fudd-daliadau yw nod Jeremy Corbyn, yn hytrach na’i ddiddymu’n gyfan gwbl, yn ôl y llefarydd Gwaith a Phensiynau Llafur, Owen Smith.

Roedd arweinydd newydd y Blaid Lafur wedi dweud wrth gynhadledd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) fod y cap yn gyfystyr â “glanhau cymdeithasol”, a’i fod am weld y cap yn cael ei ddiddymu’n llwyr.

“Cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, diben y gwelliannau rydyn ni’n cyflwyno yw gwaredu’r holl syniad o’r cap ar fudd-daliadau’n llwyr.”

Ond fe ddywedodd Owen Smith wrth raglen Newsnight y BBC mai gwrthwynebu lleihau cynlluniau Llywodraeth Prydain i leihau’r cap o £26,000 i £23,000 fyddai’r blaid mewn gwirionedd.

‘Ffolineb’

Dywedodd Owen Smith mai “ffolineb” fyddai gwrthwynebu polisi sydd wedi’i gefnogi gan y cyhoedd.

“Rwy’n credu mai’r gwir amdani yw bod rhaid i ni gefnogi lleihad cyffredinol mewn gwariant lles.

“Rwy’n credu hefyd fod rhaid i ni osod terfyn ar yr hyn y gall unigolion a theuluoedd unigol ei hawlio.

“Gadewch i fi fod yn glir – ein polisi yw gwrthwynebu’r Bil Lles sy’n cynnwys lleihau’r cap ar fudd-daliadau o £26,000 i £23,000 i dai unigol.”

Pan gafodd ei wthio ar y mater, ychwanegodd Owen Smith: “Na, ein polisi yw adolygu’r rhan yna ohono.

“Rydyn ni’n glir iawn. Rydyn ni o blaid lleihad cyffredinol yn y cyfanswm arian rydyn ni’n ei wario ar fudd-daliadau yn y wlad hon ac rydyn ni o blaid cyfyngu ar yr hyn y gall teuluoedd unigol ei hawlio.”