Mark Drakeford
Mae cleifion yng Nghymru wedi cael eu trin am lymffoedema gyda thechneg llawfeddygaeth arloesol am y tro cyntaf, yn dilyn buddsoddiad o £773,000 gan Lywodraeth Cymru.
Cymru yw’r ail le yn unig yn y DU i gynnig llawdriniaeth o’r fath, gyda’r driniaeth microlawfeddygol nawr ar gael yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ym Maglan.
Chwyddo cronig yw lymffoedema sydd yn cael ei achosi gan fethiant yn y system lymffatig. Does dim modd gwella’r cyflwr ac mae angen ei drin gydol oes.
Mae’n gallu bod yn un o sgil-effeithiau triniaeth lawfeddygol a radiotherapi ar gyfer canser, ond mae wedi cael ei gysylltu â nam genynnol neu haint neu anaf.
Triniaeth wedi dechrau
Mae’r llawfeddygaeth anastomosis lymffatig gwythiennol (LVA) sy’n cael ei ddefnyddio yn dechneg microlawfeddygol arbennig sy’n uno lymffau darfodedig â gwythïen fyw.
Canfuwyd bod y driniaeth, oedd ond ar gael yn Ysbyty Brenhinol Marsden yn Llundain cyn hyn, yn lleihau episodau o lid yr isgroen, sy’n golygu nad oes bellach angen i gleifion ddefnyddio rhwymau cywasgu i leddfu symptomau.
Fe allai hyd at 42 o gleifion ledled Cymru gael y driniaeth bob blwyddyn fel rhan o werthusiad dwy flynedd o fanteision LVA, ac fe gafodd y rhai cyntaf eu trin ddechrau mis Medi.
“Mae gan Gymru wasanaeth lymffoedema sy’n arwain y ffordd yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop. Rydym eisiau parhau i wella’r cymorth sydd ar gael i bobl sy’n dioddef o lymffoedema,” meddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford.
“Gall lymffoedema effeithio ar bobl o bob oedran ac ar unrhyw ran o’r corff. Mae’n effeithio ar bobl am resymau corfforol, seicolegol a chymdeithasol, gan effeithio’n sylweddol ar ansawdd bywyd a’r gallu i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol arferol.”
‘Arwain y ffordd’
Ychwanegodd Melanie Thomas, yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer lymffoedema yng Nghymru, eu bod yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ar gyfer cleifion â’r cyflwr.
“Mae LVA yn dechneg arloesol a bydd Rhwydwaith Lymffoedema Cymru yn arwain y ffordd o ran ymchwilio a gwerthuso’r rhaglen hon,” meddai.
“Bydd cefnogi cleifion drwy dechnoleg arloesol newydd fel presgripsiynau fideo yn eu galluogi i ymgysylltu’n llwyr a chynllunio eu gofal yn eu hamser eu hunain, a fydd yn creu perthynas well rhwng y claf a’r therapydd.”