Mae AC y Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa ddata o bobl sy’n fodlon cynnig llety i ffoaduriaid sy’n dod i Gymru.

Dywedodd Eluned Parrott AC Canol De Cymru ei bod am weld pobl yn cofrestru ar y gronfa ddata os ydyn nhw am gynnig llety i ffoaduriaid.

“Fel nifer o wleidyddion, rwyf wedi cael llawer o e-byst, llythyrau a negeseuon trydar gan etholwyr sydd eisiau helpu’r bobl anffodus hynny sy’n edrych am loches yn ein gwlad,” meddai Eluned Parrott.

“Tra bod llawer eisiau rhoi arian, dillad a nwyddau hanfodol eraill, mae nifer cynyddol o bobl eisiau helpu drwy gynnig llety i ffoaduriaid.”

Cydlynu ymateb

Fe fydd uwchgynhadledd yn cael ei gynnal  yr wythnos hon, sy’n cael ei gynnal gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, a fydd yn trafod gydag awdurdodau lleol ac elusennau sut i gydlynu’r ymateb yng Nghymru i argyfwng y ffoaduriaid.

Mae Eluned Parrott wedi galw ar y rhai fydd yn mynychu’r  uwchgynhadledd  i ystyried sefydlu cronfa ddata o bobl sy’n barod i helpu.

“Rwy’n siŵr bod miloedd o bobl a fyddai’n fodlon cofrestru a chynnig ystafell neu fwy i ffoadur a’u teuluoedd. Mae pobl hefyd ag ail gartref sy’n barod i gynnig eu heiddo dros y misoedd nesaf.

“Yr hyn sydd ar goll yw rhwydwaith a chynllun gweinyddu er mwyn cydlynu hyn. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud hyn ac rwy’n galw arnynt i wneud hyn ar unwaith.”

Beirniadu ymateb ‘gwarthus’ y Ceidwadwyr

Yn ôl Eluned Parrott, mae ymateb Llywodraeth y DU i’r argyfwng wedi bod yn warthus.

“Dydyn ni ddim yn derbyn hanner digon o ffoaduriaid, dyna pam wnes i, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, ac aelodau eraill y blaid ar hyd y wlad brotestio yn erbyn Llywodraeth y DU, ddydd Sadwrn.

“Rhaid i ni fod yn dosturiol wrth ymateb i’r rhai sy’n ceisio am loches yn ein gwlad.”