Stormont
Mae angen i Sinn Fein gydnabod fod mudiad yr IRA yn dal i fod yn weithredol os oes cytundeb yn mynd i fod ynglŷn â rhannu grymoedd yng Ngogledd Iwerddon.

Dyna alwad arweinydd plaid Unoliaethwyr Ulster, Mike Nesbitt, a ddywedodd na fyddai modd datrys yr argyfwng gwleidyddol yn Stormont nes bod hynny’n digwydd.

Mae’r Llywodraeth glymblaid o bleidiau unoliaethol a gweriniaethol yng Ngogledd Iwerddon mewn perygl o ddod i ben yn dilyn llofruddiaeth ddiweddar gafodd ei gysylltu â’r IRA.

Bellach mae Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Theresa Villiers wedi cynnal trafodaethau brys â’r holl bleidiau er mwyn ceisio achub y llywodraeth yno.

Rhagor o drafod

Dywedodd Mike Nesbitt fod Theresa Villiers wedi cytuno ag e fod Sinn Fein yn gwneud “niwed mawr i’r broses wleidyddol” wrth wadu bodolaeth barhaol yr IRA.

“Os oes trafodaethau yn mynd i fod, dyma dw i’n credu fydd yn lladd neu achub llywodraeth ddatganoledig,” meddai Mike Nesbitt.

Mae disgwyl i’r trafodaethau barhau am hyd at bedair i chwe wythnos arall, gyda swyddogion o lywodraeth Iwerddon yn ogystal â Phrydain i gyfarfod â’r pleidiau.

Dwy lofruddiaeth

Cafodd yr argyfwng gwleidyddol ei sbarduno ar ôl llofruddiaeth Kevin McGuigan, gyda’r heddlu yn amau aelodau o’r IRA o fod yn gyfrifol.

Y gred oedd bod llofruddiaeth Kevin McGuigan yn weithred o ddial am lofruddiaeth cyn-arweinydd yr IRA Gerard ‘Jock’ Davison ym Melffast tri mis yn ôl.

Yn dilyn llofruddiaeth Kevin McGuigan fe ymddiswyddodd pedwar o’r pump o weinidogion oedd gan y DUP o lywodraeth Gogledd Iwerddon, gyda gweinidog yr UUP hefyd yn ymddiswyddo.